Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a’r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rhufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dewis ar hap o restr o salwch a damweiniau i ddarganfod eich triniaeth.
Cyfle i weld sut oedd y Rhufeiniaid yn credu y gallwch chi felltithio rhywun.
Rhowch gynnig ar ysgrifennu melltith Rufeinig a’i gadael gyda Nemesis, duwies dial!