Prosiect newydd gan BLAS, adran ymgysylltu Celfyddydau Pontio, Bangor yw MonolagAYE. Eginodd MonologAYE o brosiectau amrywiol rhwng BLAS, Pobl i Bobl a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru, ble ddaeth yn amlwg fod gan nifer fawr o’r bobl sy’n byw ym Mangor stori i’w dweud – boed hynny’n stori bersonol neu yn stori am fyw ym Mangor. Daeth y syniad i arfogi unigolion gyda’r sgiliau a’r arbenigedd i ddweud eu stori drwy gyfres o fonologau gan ddefnyddio arddull monolog i ddangos yr holl leisiau amrywiol sydd yma yng nghymunedau Bangor.
Mae’r cyfres o fonologau yn dangos lleisiau, ieithoedd ac acenion unigryw Bangor, a’u rhoi ar gof a chadw – gyda’r bwriad o greu adnodd i actorion o Fangor a’r ardal gyfagos sy’n chwilio am ddarnau i’w perfformio mewn clyweliadau, cystadlaethau a sioeau. Penllanw’r prosiect fydd dod â’r holl elfennau ynghyd mewn noson rhannu – gyda pherfformiadau o’r MonologAYE gyda’r gobaith bellach o gyhoeddi llyfr neu gyfres o ffilmiau mewn partneriaeth ag Atebol.
Dwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd.