Murlun Meinir Mathias Calon Tysul

14:00, 27 Mai 2023

BYDD DIWRNOD I’R GYMUNED GYFAN YN CALON TYSUL DDYDD SADWRN 27.5.2023 I WELD SYNIADAU TERFYNOL MEINIR MATHIAS AR GYFER EI GWELEDIGAETH AM FURLUN AR WAL ALLANOL CALON TYSUL.

Mae croeso i bawb daro draw i Ystafell Weithgaredd Calon Tysul rhwng 2-5pm i wneud gweithgaredd celf gyda Meinir a’r criw ac i roi adborth i’r cysyniadau am y murlun. Bydd wal allanol Calon Tysul yn cael ei beintio yn wyn ddiwedd Mai yn barod i Meinir ddechrau ar ei gwaith yn Mehefin. Bydd hi wrthi am 4-6 wythnos yn cwblhau y gwaith o gwmpas y tywydd.

OS OES GENNYCH UNRHYW MASONARY PAINT O GWMPAS Y GALLECH EI ROI I’R GWAITH BUASWN YN DDIOLCHGAR IAWN AMDANO. DOES DIM OTS OS NAD YW’R TUN YN LLAWN.