Nadolig yn Eglwys Glanogwen

24 Rhagfyr 2023

Ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig yn Eglwys Glanogwen ar Noswyl Nadolig

3 wasanaeth ar gyfer bawb:

11yb- 9 Llith a Charol: Gwasanaeth Carolau traddodiadol

4pm-Wrth y Preseb: gwasanaeth anffurfiol, ar gyfer plant a phawb sy’n ifanc eu calon. Dewch â’r sêr o’r Helfa Sêr i addurno’r goeden a dathlu diwedd y daith at y Preseb. Croeso i chi wisgo i fyny fel cymeriad o Stori’r Geni (rhai wisgoedd ar gael yn yr eglwys)

7pm- Cymun Bendigaid y Nadolig

Croeso cynnes i bawb, o hyd. A Nadolig Llawen i bawb!