Noson Ffilm yn y Pwerdy

19:00, 29 Ebrill 2023

Am ddim

“Riverwoods: An Untold Story”

Dydd Sadwrn 29 Ebrill, mae drysau yn agor o 7yh, a’r ffilm yn ddechrau am 7.30 tan 8.30yh a thrafodaeth ar ôl y dangosiad o 8.30-9.30yh.
Te/coffi a bisgedi. Croesewir rhoddion.
Cyfle i ddeall cyflwr eogiaid yn yr Alban (ac yr un mor berthnasol i Afon Teifi) a beth ellir ei wneud i helpu i’w cefnogi.
Rhaglen ddogfen hardd, obeithiol wedi’i hadrodd gan Peter Capaldi.