Taith ‘Sha thre / am adra’
Noson o farddoniaeth yng nghwmni Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016-2022 ac Elinor Wyn Reynolds.
Bydd Ifor ac Elinor yn cynnal noson hwyliog yn y White Horse yn dilyn eu taith gerdded o Frynaman i Landeilo ar y diwrnod hwnnw fel rhan o gylchdaith Ifor ar draws Cymru.
AM DDIM
Rhwng 8fed Mehefin a 6ed Gorffennaf eleni bydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn cerdded o Gaerdydd i Gaernarfon, gan wneud gig bob nos yng nghwmni beirdd neu gerddorion lleol, ac er budd achosion lleol.
Ar ddiwedd ail wythnos ei daith, bydd gyda ni yn Llandeilo. Dewch draw felly i’r Ceffyl Gwyn, erbyn 6 ar nos Sul y 18fed o Fehefin – ar gyfer noson o gerddi, cwrw ac ambell gân, yng nghwmni Ifor, ac Elinor Wyn Reynolds o Gaerfyrddin! Mae casgliad diweddaraf Elinor, ‘Anwyddoldeb’, newydd gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Bydd mynediad i’r noson am ddim, ond gwneir casgliad ar y diwedd, er budd Gŵyl Lenyddol Llandeilo. (Bydd Ifor yn ymweld â’r ysgol ar fore Mawrth yr 20fed cyn bwrw ymlaen ar ei daith).