Dymuna myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth eich croesawu i Lolfa Fach Pantycelyn ar y 6ed o Rhagfyr ar gyfer noson yng nghwmni’r awduron Meleri Wyn James ac Iwan Rhys. Bydd y ddau yn trafod eu cyfrolau diweddaraf; ‘Hallt’ a ‘Trothwy’ gyda ni, ac mi fydd cyfle i chi brynu copi ar y noson drwy stondin Siop Inc. Bydd Aelwyd Pantycelyn yn perfformio eitemau cerddorol, ac mi fydd lluniaeth ysgafn drwy gydol y noson. Mae’r tocynnau yn £2, ac ar gael wrth y drws neu drwy’r linc isod.