Alf Bodenham – cerdded o John O’Groats i Land’s End
Mike Raine – Beic-bacio 550 Cymru
Tocynnau wrth y drws, am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri
Holl elw tuag at Gymdeithas Eryri
E-bostiwch: Jen@snowdonia-society.org.uk i archebu a chadw lle
Ymunwch â ni am noson lle cewch hanes anturiaethau teithio hunan-yriant! Treuliodd ein Cynorthwy-ydd Cadwraeth Alf yr haf yn cerdded o un pen o Brydain i’r llall, o John O’Groats i Penn an Wlas (Land’s End). Yn ddiweddar teithiodd yr hyfforddwr mynydd, arbenigwr ar Eryri ac awdur Mike Raine ar feic a gwersylla wrth ddilyn llwybr cylch o amgylch Cymru; y 550 Cymreig (Cylchdaith Cymru).
Ymunwch â ni ar 26/2 i glywed hanes eu teithiau: yr uchelbwyntiau a’r iselbwyntiau, canllawiau, anawsterau, a’r hyn a ddysgwyd ganddyn nhw ar hyd y daith.
£10 (arian parod ar y noson), £5 i gwirfoddolwyr neu am ddim i aelodau. E-bostiwch Jen@snowdonia-society.org.uk i archebu lle i chi. Os ydych yn aelod rhowch eich enw a’ch cyfeiriad (a rhif aelodaeth os ydych yn ei wybod).