Noson Siopa Nadolig Llanbedr pont Steffan

30 Tachwedd 2023

Dymuna Siambr Fasnach Llanbed eich croesawi i’r Stryd Fawr ar nos Iau y 30fed o Dachwedd am 4.30yh, wrth i’r dref dathlu hwyl yr ŵyl a chreu cyfle i chi siopa nifer of fusnesau lleol Llanbed tu allan i’w horiau arferol. 
Yn ogystal â hyn dyma rhestr o phopeth arall a fydd ar gael ar y noson: marchnad o fusnesau bach y bro, ffair, dewis eang o fwydydd i’w mwynhau,  ‘bucking bronco’ Nadoligaidd, adloniant a cherddoriaeth addas i blant ag oedolion, paentio gwyneb am ddim yn siop Y Stiwdio Brint, groto Siôn Corn gydag anrheg am ddim i bob plentyn yn Yr Hedyn Mwstard ar Stryd y Coleg o 5yh ymlaen, Injan Dân, a raffl gyda gwobrau diri!
Bydd y digwyddiad yn cael ei hagor yn sywddogol am 4.45yh, ac yn ymuno â ni o’r cyfes deledu “Y ‘Sgubor Flodau” mae Wendy Davies, Donald Morgan and Gaby Davies, a fydd yn goleuo goleuadau’r goeden gyda Maer y Dref ar y sgwâr am 4.55yh. 

Mae croeso i bawb, ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’w fynychu.