Noson o straeon a chaneuon gyda MEINIR GWILYM

19:30, 17 Tachwedd 2023

£10

Noson arall yng nghyfres “Nosweithiau Cymraeg Trefin a’r cylch”.  Y tro ’ma yng nghwmni’r amryddawn, Meinir Gwilym.  Fe’ch cynghorir i brynu tocynnau o flaen llaw drwy ebostio huwlandgeg@btinternet.com.  Trefnir y noson gan Menter Iaith Sir Benfro a “Chyfeillion y Cylch”.