Parêd a Thwmpath Dawns Santes Dwynwen

14:00, 21 Ionawr 2023

Am ddim

  • Beth?  Parêd a Thwmpath dawns Santes Dwynwen i ddathlu cariad o bob math – at bobl a’r byd
  • Pryd? Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2023 – Pared 2pm a’r Twmpath yn syth wedyn
  • Ble? Parêd o dop y dre ger Neuadd y Farchnad a’r Twmpath yn syth ar ôl y parêd yn Amgueddfa Ceredigion
  • Pwy?  Mae croeso i bawb boed yn grwpiau neu unigolion, ffrindiau a theuluoedd. Gobeithiwn y bydd busnesau’n gweithio gyda ni drwy wisgo’u ffenestri a gwerthu nwyddau sy’n ymwneud â chariad, ac y bydd pawb yn dod â baneri a gwisgo dillad hwyliog i ymuno â ni i ddathlu ein treftadaeth genedlaethol a lledaenu ychydig o gariad wrth gael hwyl.
  • Cost? Yn rhad ac am ddim
  • Pam?  Mae busnesau lleol wedi wynebu her ar ôl her yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r Cyngor Tref am eu cefnogi. Dyma’r digwyddiad cyntaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau hanesyddol a diwylliannol Cymreig i gryfhau ymdeimlad Aberystwyth o le a hunaniaeth dra ar yr un pryd yn creu delweddau cofiadwy y bydd ymwelwyr eisiau dod i’w gweld.

Mae’r digwyddiad cyntaf yma yn ddathliad o Santes Dwynwen, ein nawddsant cariad, sy’n cael ei ddathlu ar 25 Ionawr. Yn ôl y chwedl, er mwyn achub y gŵr yr oedd hi’n ei garu, enciliodd i unigedd Ynys Llanddwyn oddi ar arfordir gorllewinol Môn i fod yn feudwy, hyd ei marwolaeth tua 460 OC. Dywedir bod Dwynwen wedi astudio priodweddau iachau perlysiau lleol ac felly’n gallu gwella salwch pobl o bob rhan o Gymru. Daeth ei heglwys ar Ynys Llanddwyn yn gysegrfa bwysig yn ystod yr Oesoedd Canol ac mae’r olion i’w gweld hyd heddiw. Daeth y ffynnon sanctaidd yn safle pererindod, lle credid bod symudiad pysgod cysegredig o fewn ei dyfroedd yn dynodi tynged cariadon.

Am fwy o wybodaethcouncil@aberystwyth.gov.uk – 01970 624761