A-lad-in Penparcau

18:00, 21 Tachwedd 2023

Screenshot-2023-11-06-at-11.00.18

Mae plant Ysgol Llwyn yr Eos wedi bod yn gweithio’n galed trwy’r tymor i baratoi sioe arbennig ar eich cyfer. Hanes crwt o Benparcau sydd a’i freuddwydion ar briodi Tywysoges. Ond, mae’n gwynebu rhwystrau di-ri yn enwedig ar ol cwrdd a dyn drwg o Dynyfron.

Pwy all ei helpu? Ei ffrindiau, ei fam neu a oes rhywun arall a all ddod i achub y dydd?

Dewch i hissian ac i fwwwwian gyda ni.

Efallai bydd cyfle am ambell waedd – O na fydd glei – O bydd wir!

I archebu tocynnau galwch mewn i’r ysgol neu anfonwch ebost i pugh-jonec@hwbcymru.net i archebu.

Welwn ni chi ’na, o na wnewch chi ddim, o newn glei!!!!!