Rachel Barrett: Welsh Suffragette and Radical Campaigner

19:00, 24 Mawrth 2023

Am ddim

Sgwrs yn Saesneg gan Mary Thorley

Daeth Rachel Barrett, a aned yng Nghaerfyrddin yn 1874, yn un o ffigurau blaenllaw mudiad y bleidlais i fenywod. Roedd yn areithiwr a thrafodwr dawnus yn ogystal â bod yn gyd-olygydd, a ffotograffydd, cylchgrawn “The Suffragette”. Bu’n gweithio’n agos gyda Christabel Pankhurst a chafodd ei charcharu ar gyhuddiad o gynllwynio yn 1913. Ar ôl gwrthod bwyta, cafodd ei bwydo yn erbyn ei hewyllys lawer gwaith. Yn radical yn ei gwleidyddiaeth, roedd yn un o aelodau mwyaf carismataidd mudiad y Swffragetiaid ond nid oes llawer o bobl yn gwybod am ei hanes.

Mae Mary Thorley, sy’n bwriadu cyhoeddi llyfr am fywyd Rachel, yn brifathrawes wedi ymddeol ac yn gyn-bennaeth Hyfforddiant Athrawon ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddi PhD yn Hanes Merched Cymru.

Cliciwch ar y ddolen i gofrestru