Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth

11:30, 8 Mai 2023

Mae’r ralïau ac ymgyrchu wedi arwain at rymoedd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau, ond mae un broblem fawr yn aros – y farchnad agored.
Mae tai a thir Cymru’n cael eu prynu’n syth gan bobl o ardaloedd cyfoethocach, sy’n chwalu cymunedau Cymraeg.

Ar draws Cymru mae prisiau tai wedi cynyddu dros y blynyddoedd, nes eu bod y tu hwnt i afael pobl ar gyflogau lleol.
Mae’r broblem wedi mynd ymlaen yn rhy hir – dewch i Gaernarfon i fynnu dyfodol i’n cymunedau, ac i ddatgan nad yw Cymru ar werth!

Rhaid pwyso i sichrau bod y Ddeddf Eiddo yn:

  • Sicrhau’r Hawl i Gartre’n Lleol
  • Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol
  • Grymuso Cymunedau
  • Blaenoriaethu Pobl Leol
  • Rheoli’r Sector Rhentu
  • Cartrefi Cynaliadwy
  • Buddsoddi mewn Cymunedau