Croeso cynnes i bawb i’r arddangosfa hon fis nesaf yn Aberystwyth. Mae’n waith sy’n deillio o brosiect yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Mae’r prosiect cymharol, amhleidiol yma yn rhan o raglen ymchwil WISERD ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal arddangosfa gyntaf y prosiect yn Aberystwyth. Byddwn yn rhannu gwaith aelodau Clwb Camera Aberystwyth mewn perthynas â’r prosiect. Bydd rhai gweithgareddau hefyd.
Am wybodaeth bellach ynghylch yr arddangosfa, ewch i: