Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru

10:00, 13 Ebrill 2023 – 17:00, 15 Ebrill 2023

Am ddim

Croeso cynnes i bawb i’r arddangosfa hon fis nesaf yn Aberystwyth. Mae’n waith sy’n deillio o brosiect yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Mae’r prosiect cymharol, amhleidiol yma yn rhan o raglen ymchwil WISERD ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. 

Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal arddangosfa gyntaf y prosiect yn Aberystwyth. Byddwn yn rhannu gwaith aelodau Clwb Camera Aberystwyth mewn perthynas â’r prosiect. Bydd rhai gweithgareddau hefyd. 

Am wybodaeth bellach ynghylch yr arddangosfa, ewch i:   

https://cwps.aber.ac.uk/cy/darlunio-dyfodol-cymru/