Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru

10:00, 13 Ebrill 2023 – 17:00, 15 Ebrill 2023

Arddangosfa yn deillio o brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Mae’r prosiect cymharol, amhleidiol yma yn rhan o raglen ymchwil WISERD ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Yn yr arddangosfa dangosir gwaith aelodau Clwb Camera Aberystwyth mewn perthynas â’r prosiect. Bydd rhai gweithgareddau hefyd.

Ar agor yn ddyddiol 10.00-17.00 ar y tri diwrnod. Croeso i bawb!