RhythmAYE!
Diwrnod o rhythm, dawns a syrcas i’r teulu cyfan!
Sesiynau galw mewn yw’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau ac nid oes angen archebu tocynnau heblaw am i’r ffilm Barbie a’r sesiwn Caffi Babis. Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau isod bydd Sparkle & Shimmer yn cynnig tatŵs glityr am ddim o 10.30am – 2pm a bydd Caffi Cegin ar lefel 2 ar agor o 10am – 5pm! Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu!
Caffi Babis Clocsio
Stiwdio, 10am
0 – 2 oed
£3
Awren greadigol yng nghwmni Siwan Llynor ac Angharad Harrop sydd fel arfer yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener cynta’r mis. Yn gyfuniad o hwiangerddi, dawns ac elfennau gweledol cryf sy’n wledd i’r synhwyrau, ac ar gyfer diwrnod RhythmAYE, fe fyddwn yn archwilio sŵn a symud dawns y glocsen. Yn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis, ond mae croeso i blant hŷn ymuno hefyd.
Holes
Amffitheatr, 11am
Addas i bob oed
AM DDIM
Mae Holes yn ddarn prydferth, hwyliog, chwareus, pryfoclyd a rhyngweithiol. Dwy ferch (artistiaid awyrol), un yn ddall, sy’n darganfod twll yn y gofod. Wrth ddisgyn iddo, cewch eich tywys mewn siwrnai llawn dychymyg. Mae Sain Ddisgrifiad yn rhan greiddiol o’r sioe.
Qwerin
Plaza, 12.30 + 4pm
Addas i bob oed
AM DDIM
Yn llawn asbri, lliw a rythmau cyffrous, ysbrydolwyd gan wead a phatrymau’r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar. Daw QWERIN yn ôl eleni, yn fwy ac ar ei newydd wedd, i gynnig sylwebaeth pellach ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod. Perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad egnïol o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned yw QWERIN. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.
Q-fforia
Amffitheatr, 1.45pm
Addas i bob oed
AM DDIM
Mae Q-fforia yn waith newydd a hanfodol a grëwyd gan Angharad Jones ac Amy Longmuir, gyda chefnogaeth Theatr Clwyd, Pontio, Ballet Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn o gystal â phartneriaid yn yr Alban: Creative Scotland, Citymoves a Dance Base. Mae Q-fforia yn ymchwilio i hanesion personol LHDTC+ sy’n atseinio o fewn y profiad cwiar ehangach. Ymysg seinwedd curiadol a gwreiddiol a grëwyd, mae’r dawnswyr yn dod â’r eiliadau petrus, amrwd a gorfoleddus sy’n llywio hunaniaeth cwiar yn fyw trwy ddawns a thestun llafar.
Proper Job!
Plaza, 2.30pm
Addas i blant dros 3 oed
AM DDIM
Mae Proper Job! yn plethu syrcas, theatr a gwiriondeb i archwilio’r cwesityna mawr fel ‘be hoffwn fod pan dwi’n hŷn?’. Mae Maggie yn breuddwydio am ei hoff swydd, ond hefyd, hoffai helpu cymaint o bobl ag sy’n bosib. Yn y diwedd, mae’n cael swydd fel rheolwr traffig … mae’r sioe yma yn trafod pynciau heriol bywyd drwy llawenydd, direidi a drygioni!
PROSESIWN!
Plaza, 3pm
Ymunwch â Cimera a Bloco Sŵn mewn prosesiwn a pherfformiad byw!
Clocsio
O flaen Pontio, 1pm – 3pm
Addas i bob oed
AM DDIM
Dewch i roi tro ar glocsio gydag Angharad Harrop! Sesiwn galw mewn, a bydd clocsiau ar gael ond mae croeso ichi ddod â chlocsiau eich hunain!
Gweithdy UKULELE
Bocs Gwyn, 12pm – 1pm
Addas i bob oed
AM DDIM
Ymunwch mewn sesiwn galw mewn i ddysgu sut i chwarae Ukulele!
Gweithdy SAMBA
Bocs Gwyn, 10am + 2.15pm
Addas i bob oed
AM DDIM
Ymuwch yn yr hwyl mewn gweithdy Samba gyda chriw Codi’r To!
Llwyfan Lleol
Llawr gwaelod, drwy’r dydd
Agored i bawb
Dyma’ch cyfle chi i berfformio yn ystod diwrnod RhythmAYE! Mae gennym lwyfan i berfformwyr lleol ymuno â ni. Am ragor o wybodaeth ac i ddatgan diddordeb cysylltwch gyda Mared Huws: m.huws@bangor.ac.uk
Barbie (12A)
11am, 2pm, 5.30pm, 8.15pm
£5.50 – £7.50
Diwrnod cyntaf y ffilm hir ddisgwyliedig BARBIE yn Sinema Pontio! Ymlaciwch yn y sinema i fwynhau’r ffilm wedi holl fwrlwm y perfformiadau byw!
Sgiliau Syrcas
Stiwdio, 12.30pm – 2.30pm
Mwyaf addas i rai 7 – 12 oed
AM DDIM
Sgiliau syrcas gyda CircoPyro! Sesiwn galw mewn yn y Stiwdio, ble bydd modd ichi chwarae gemau a dysgu ychydig o sgiliau syrcAs. Dewch i jyglo, troelli, rhoi cynnig ar rhywbeth newydd a chael hwyl!
Bydd Iolo Penri yn tynnu lluniau ar y diwrnod. Mae croeso i chi siarad gydag aelod o staff ar y diwrnod os nad ydych am gael eich cynnwys yn y lluniau.