Sinema Sbeshal ‘Ibiza, Ibiza’ 

18:00, 28 Ebrill 2023

£25

Barod am noson BRILIANT, PRILIANT yn Sinema Sbeshal ‘Ibiza, Ibiza’? 

Dewch nôl i’r ’80au gyda dangosiad o’r clasur o ffilm ‘Ibiza, Ibiza!’. Mae’r ffilm yn dilyn anturiaethau tri chwpwl ar eu gwyliau ar yr ynys sef Lavinia a’i ffrind Enfys o Gwm Gwendraeth (ar beth oedd i fod yn fis mel i Lavinia!), y cwpwl parchus o’r ddinas, Rhisiart a Glenys, a’r merched ysgol o’r gogledd, Delyth a Bethan. 
Os taw dyma’r tro cynta neu’r canfed tro i chi weld y ffilm – mi fydd yna bendant chwerthin gyda dynwared arbennig yr actorion Caryl Parry Jones, Siw Hughes ac Emyr Wyn – heb sôn am wisgoedd yr 80au!
Bydd y DJ Branwen Munn yn troelli tiwns ac yn gosod y naws i gychwyn pethau gyda diod am ddim – gydag ymbarél (!) – yn aros amdanoch.
Yn dilyn y ffilm bydd y band ‘Footloose’ – sy’n cynnwys Non Parry (Eden), Steffan Rhys Williams, Sion Llwyd a Myfyr Isaac – yn canu’n fyw a chyfle i chi ddawnsio fel petai chi mewn parti swigod yn Ibiza!
Noson yn addas ar gyfer y rhai hynny sy’n 18+ 
Cofiwch eich gwisg 80au ’fyd – digon o felfed, denim a llond lle o liw! 
MAE HWYL MEWN STÔR, AR LAN Y MÔR, YN IBIZA!