Siôn Corn a’i Ffrindiau yn Sain Ffagan

10:00, 3 Rhagfyr 2023

£14

Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig yn awyrgylch hudolus Llys Llywelyn, ail-gread un o lysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd o’r 13eg ganrif. Felly cofiwch archebu lle er mwyn i’r plantos gael ymuno yn yr hwyl.

Caiff bob plentyn:

  • Gwrdd â Siôn Corn – bydd yn cwrdd â phob plentyn yn unigol i roi anrheg iddynt. Bydd cyfle i dynnu llun gyda Siôn Corn.
  • Gymryd rhan mewn sesiwn amser stori rhyngweithiol gyda Siôn Corn a’r Corachod
  • Gymryd rhan mewn gweithdy Crefft gyda’r Corachod – bydd pob plentyn yn creu addurn arbennig i fynd adref