Taith Cymru – Côr Meibion Dyfnant

25 Tachwedd 2023 – 27 Gorffennaf

£15

Mae Côr Meibion Dyfnant, yn dal i fod yn gôr bywiog ac uchelgeisiol ac adlewyrchir hyn drwy raglen gyffrous y côr am y tymor 2023/24, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae’r côr ar  fin lansio  “Taith Cymru”, yr un gyntaf erioed i’r côr.  Cynhelir cyngerdd cyntaf y daith yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 25 Tachwedd 2023.

Dyma’r rhestr lawn o gyngherddau/ymgysylltiadau:

25 Tachwedd, 2023  yng Nghadeirlan Aberhonddu gyda Chôr Meibion Aberhonddu a’r cylch

16 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Llanelwy gyda Rhys Meirion

17 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Bangor gyda Rhys Meirion

16 Mawrth 2024 yng Nghadeirlan St Woolos, Casnewydd gydag Only Boys Aloud

13 Ebrill, 2024 yng Nghadeirlan Tyddewi gyda Chôr Meibion Hwlffordd

Ar y 4ydd o Orffennaf, bydd Côr Meibion Dyfnant yn perfformio mewn “Cymanfa Ganu” yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd.

Bydd Taith Cymru yn gorffen gyda “Chyngerdd Terfynol” syfrdanol yn Abertawe. Bydd yr artistiaid, ar wahân i “Only Boys Aloud”, a fu’n rhannu’r llwyfan gyda Chôr Meibion Dyfnant ar y daith, yn perfformio yn y cyngerdd dathlu cyffrous hwn, yn Neuadd Brangwyn.