Taith Gerdded Meddwlgarwch

09:30, 18 Mawrth 2023

Am ddim

Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gydag arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Parneriaeth Cwm Idwal. Cyfle gwych am ychydig o seibiant ac i gysylltu efo’r natur o’n cwmpas. Mae’r teithiau yn dechrau am 9:30am o flaen Canolfan Cwm Idwal, byddwn yna yn cerdded o amgylch y Warchodfa Natur Genedlaethol gan stopio o bryd i’w gilydd i wneud ymarferion meddwlgarwch.

Gall parcio fod yn anodd ar gyfer Cwm Idwal ond mae posib dal y bws T10 o Fethesda hefyd.

Rhaid archebu lle. Cysylltwch a Rhys Wheldon-Roberts:

ebost: rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk neu galwch 01248 605535 neu 07977 596517