Dro bach arall hamddenol yn ein cyfres ‘Tyrd am dro yn ein bro’. Hanner awr o gerdded gwastad drwy ddôl ar ochr y llyn, yna seibiant yng nghaffi’r Amgueddfa Lechi, a cherdded yn ôl i fod yn ôl ym Methesda erbyn 1:00.
Addas i bawb sydd isio codi ffitrwydd neu hyder, neu just am gael dro ac awyr iach mewn cwmpeini.
I drefnu pas yn y cerbyd, cysylltwch â judith@ogwen.org neu 07967 115508, neu cyfarfod ni yn y maes parcio am 11:00.