Theatr Genedlaethol Cymru: Rhinoseros

19:30, 1 Tachwedd 2023

Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno

Rhinoseros

gan Eugene Ionesco

Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros

Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?

Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod. Wrth i’r byd a’i bobl newid o’i gwmpas, mae’r arwr annhebygol Bérenger yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio – ond beth ydy’r gost o beidio cydymffurfio?

Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd hwn gan Eugene Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus – mae’r rhinoserosod yn dod!