Theatr Unnos

10:30, 18 Mawrth 2023

Am ddim

Am y tro cyntaf erioed, bydd yr Ŵyl Ddrama yn cynnal Theatr Unnos.

Byddwn yn gosod her arbennig i griw o bobol greadigol – Eddie Ladd, Carwyn Blayney, Rhiannon Mair a Mari Mathias – i greu perfformiad theatrig dros nos.

Bydd y criw yn dod at ei gilydd am 9 o’r gloch y noson cynt, yn gweithio’n greadigol gydol y nos, cyn perfformio eu gwaith ar lwyfan Theatr Felinfach y bore canlynol am 10:30.

Dewch i brofi perfformiad unigryw iawn… ac archebwch eich lle nawr achos nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael!