Twmpath Dawns yng nghwmni Dawnswyr Talog nos Wener Hydref 6ed yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan.
Trefnir gan Bwyllgor Gŵyl Ddewi a Merched y Wawr Llanbed. Noddir gan Cered, Pwyllgor Gŵyl Ddewi a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.
Bydd Gweithdy arbennig i blant oed cynradd am 6.45pm.
Bydd yr elw yn mynd at achosion lleol.
Dewch i gefnogi, i ddawnsio – a chael hwyl!