Cynhyrchiad diweddaraf Theatr Fach Llangefni yw cyfieithiad o’r clasur Americaniadd “The Glass Menagerie” gan Tennessee Williams. Hanes teulu’r Wingfield a gawn. Credir mai hon yw’r ddrama agosaf at hanes bywyd y dramodydd ei hun ac mai ef yn wir yw Tom, storiwr y ddrama gan mai enw go iawn Tennessee oedd Thomas. Drama atgof yw hi drwy lygaid Tom ond mae hefyd yn gymeriad yn y ddrama.
Gweithia Tom mewn ffatri esgidiau, mewn swydd ddiflas mae’n ei chasáu. Mae’r teulu yn dibynnu ar ei gyflog pitw gan bod y tad wedi eu gadael. Mae Tom hefyd yn breuddwydio am ddianc ond mae’n pryderu am ddyfodol Laura, ei chwaer swil ac anabl. Mae Amanda y fam yn ysu am ddyddiau ei hieuenctid pan oedd yn boblogaidd ac yn byw bywyd moethus a chysurus. Ni all amgyffred pam na ddaw ‘ymwelwyr bonheddig’ i alw ar Laura fel yr oeddynt iddi hithau pan yn iau. Dan bwysau gan ei fam, mae Tom yn trefnu i ŵr ifanc alw. Beth all fynd o’i le?