Bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd Caer Isca (Caerllion) yn lleoliad pwysig ar ffin gogledd orllewin Ymerodraeth Rhufain.
Beth am alw draw i gyfarfod un o filwyr yr Ail Leng Awgwstaidd?
Byddan nhw’n dangos eu lifrau, eu harfau a’u hoffer milwrol ac yn disgrifio bywyd bob dydd milwr Rhufeinig ar gyrion yr Ymerodraeth.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal yn ddwyieithog.