Wythnos Addysg Oedolion – Gweithgareddau Crefft (sesiynau galw heibio)

14:00, 19 Medi 2023

Am ddim

Galwch draw i’n sesiynau crefft anffurfiol yn Sain Ffagan. Dewch i ddysgu sgil newydd, cwrdd â phobl newydd a chael eich ysbrydoli gan gasgliadau’r Amgueddfa.

Dydd Mawrth Medi 19

2pm-4pm

Gwehyddu a Chrefftau Edafedd Traddodiadol: Dewch i wehyddu llyfrnod, neu roi cynnig ar wau a chrosio.

Cardiau Cyfarch: ⁠Cyfle i greu cyfres o gardiau cyfarch lliwgar wedi’u hysbrydoli gan ein hadeiladau a’n casgliadau.