Wythnos Addysg Oedolion – Gweithgareddau Crefft (sesiynau i’w harchebu)

14:30, 22 Medi 2023

Am ddim

Ymunwch â ni am gyflwyniad i grefftio yn Sain Ffagan. Bydd y sesiynau flasu hyn yn gyfle i ddysgu sgil newydd, cwrdd â phobl newydd a chael eich ysbrydoli gan gasgliadau’r Amgueddfa.

Dydd Gwener Medi 22

2.30pm-3.30pm

Enamlo: Ymunwch â ni am gyflwyniad i enamlo, a dysgu sut i danio enamel ar gopr mewn odyn. 

Archebwch docyn ymlaen llaw: Tocynnau