Aber v Pwllheli

13:00, 17 Awst

Dydd Sadwrn 17 Awst fe fydd tîm cyntaf Clwb Rygbi Aberystwyth yn herio Clwb Rygbi Pwllheli mewn gêm gyfeillgar gartref. Fe fydd y clwb ar agor o un o’r gloch y prynhawn. Y gêm i ddechrau am 14.30.

Dewch i lawr i Gae Plascrug i gefnogi’r bois!