Aduniad GwyrddNi

18:30, 14 Mehefin

Am ddim

Noson i sgwrsio, rhannu straeon, rhannu llwyddiannau a chynllunio mwy o weithgarwch mudiad GwyrddNi yn ardal Dyffryn Peris. Cymdogion a grwpiau cymunedol yn dysgu, rhannu a gweithredu gyda’i gilydd i greu dyfodol gwell a chymdeithas wydn a chefnogol. 

Ar gyfer aelodau’r cynulliad llynedd ac unrhyw un arall sydd a diddordeb yn y gwaith!

Bydd cyfle i glywed am

  • 14 o brosiectau Stori’r Tir sy’n rhedeg dros yr haf a sut i ymuno â nhw
  • Y diweddaraf gyda ffurfio Partneriaeth Dyffryn Peris – corff ymbarel i gefnogi datblygu cymunedol yn y fro 
  • Rhaglen Dŵr a Thir, adnabod y fro a dechrau taclo Jac-y-Neidiwr
  • Caffi Trwsio Bethel
  • Ail-ddechrau gwaith gyda ysgolion
  • Syniadau i godi ymwybyddiaeth dadgarboneiddio ein tai ac adeiladau cymunedol, ac uwch-sgilio’r gweithlu 

Bydd panad a byffe a mymryn o adloniant ar ddiwedd y noson.

Mae croeso i bobl alw i mewn ar unrhyw adeg o’r noson.