Amlgampau

10:00, 19 Awst – 16:00, 20 Awst

£20

Dros yr haf, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal dau ddiwrnod cyfan o amlgampau gydag OT Coaching. Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal yn Ysgol Griffith Jones rhwng 10yb a 4yp. Ar y 19eg o Awst bydd croeso i flynyddoedd 4, 5 a 6 ac yna ar y 20fed blynyddoedd 7, 8 a 9. Ymunwch gyda ni am ddiwrnod yn llawn gweithgareddau hwylus am bris o £20. Bydd angen dod â chinio eich hun, a digon ohono yn barod ar gyfer diwrnod prysur! I gofrestru neu am fanylion pellach, cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru