Dewch draw â’r teulu y gwanwyn hwn i fwynhau byd o antur ar lwybr anturiaethau’r Pasg yng Ngardd Bodnant!
Dilynwch y llwybr a dewch o hyd i weithgareddau i’r teulu cyfan sydd wedi’u hysbrydoli gan fyd natur. Mae’r llwybr yn agored rhwng 23 Mawrth 2024 – 1 Ebrill 2024, rhwng 9:30yb a 4yp, felly, dewch draw i archwilio’r ardd hardd ym Modnant.Pris bob llwybr yw £3 sy’n cynnwys taflen weithgaredd, clustiau cwningen, a wy siocled neu wy siocled fegan a Rhydd-Rhag*
Dewch ar helfa trychfilod mawr o amgylch yr ardd. Mae trychfilod yn bwysig i’r ardd, a Phasg yma chewch ddysgu fwy amdanynt a gwneud pob math o weithgaredd ar hyd y ffordd. Ydych chi’n medru neidio fel sioncyn y gwair neu efallai helpu’r gwenyn i gyrraedd y blodyn ar eich taith? Mae *yn addas i bawb hefo alergeddau llaeth, wyau, glwten, cneuen ddaear a chneuen goed.