Anturiaethau’r Pasg yng Nghastell Penrhyn

10:00, 23 Mawrth – 16:00, 1 Ebrill

Pasg yma, gwisgwch eich clustiau a neidiwch i fewn i wyliau Pasg yng Nghastell Penrhyn a’r ardd. Rhwng 23 Mawrth a 1 Ebrill, daw artistiaid lleol a’r llwybr gweithgareddau 10 pwynt yn fyw yng Nghastell Penrhyn. Dewch i gyfarfod yr anifeiliaid coedwig bywiog sydd wedi eu cerfio, a’r llyffant helyg enfawr sy’d gwneud cartref yn yr Ardd Orsiog.

Mae’r anturiaethau Pasg yn rhoi cyfle i’r teulu gyfan cael cyfle i ddod allan gyda amrywiaeth o weithgareddau i’w cwblhau. Ewch i ffeindio’r offerynnau yn y goedwig i greu cerddoriaeth, ymunwch yn nhe parti’r pasg yn yr Ardd Furiog, neu cymerwch ran mewn ras wy ar lwy. Os yn mynd i fewn i’r castell, efallai gwelwch rhai o’r wyau wedi eu gollwng gan gwningen y Pasg.

Wedi’r gwaith caled, ewch i gasglu eich wy Pasg, gallwch ddewis un ai wy siocled neu wy siocled fegan a Rhydd Rhag. Mae’r ddau wy wedi’u gwneud gyda choco Ardystiedig Cynghrair y Fforestydd Glaw.

Pethau i’w nodi cyn ymweld dros y Pasg:

  • Mae’r llwybr yn costio £3 i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys y dudalen gweithgareddau, pensil ac wy siocled.
  • Mae prisiau mynediad arferol yn gyfredol.
  • Mae rhan fwyaf o’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a pramiau ond mae llwybrau amgen ar gyfer y tir anwastad.
  • Mae’r llwybr yn parhau tra bod stociau’n para.