Basgedi Crog

14:00, 31 Gorffennaf 2024

Am ddim

Gweithgareddau Haf Dyffryn Ogwen

Dewch i Lys Dafydd ar y Stryd Fawr o 2-4 dydd Mercher 31ain Gorffennaf i greu eich basged grog eich hun i fynd adref gyda chi. Mae hwn yn weithgaredd rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd.

Beth am ymuno â ni hefyd o 4-6 yng Nghanolfan Cefnfaes ar gyfer Swpar Chwaral – pryd o fwyd am ddim sy’n agored i’r gymuned gyfan.

Diolch i Elusen Ogwen am noddi’r gweithgaredd yma.