Pen-blwydd Mawr Bodnant!

09:30, 19 Hydref – 16:00, 3 Tachwedd

Digwyddiad am ddim, codir pris mynediad arferol i'r ardd. Am ddim i aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

I nodi dau ben-blwydd ‘mawr’ arbennig iawn ym mis Hydref a Thachwedd 2024, rydym yn eich gwahodd i ymuno yn y dathliadau gyda llwybr arbennig iawn drwy’r ardd yr hydref hwn.

Gyda gemau parti awyr agored, gweithgareddau a llwybr o bocsys pen-blwydd arbennig i’w darganfod a’u hagor ar hyd y ffordd, mae’r hanner tymor yn un dathliad mawr yma yng Ngardd Bodnant.

Cofiwch adael eich neges ben-blwydd arbennig eich hun i Ardd Bodnant ar ‘Cerdyn Pen-blwydd Mawr’ arbennig sydd wedi’i leoli dan y Bwa Tresi Aur.