“Brangwyn Y Gwneuthurwr Printiau” Darlith gan Dr Libby Horner

14:00, 24 Mehefin

Am Ddim

I cyd fynd hefo arddangosfa MEWN PRINT: SYR FRANK BRANGWYN RA (1867 – 1956) bydd cyfres o dair darlith fydd yn rhoi golwg manwl ar fywyd a gwaith  y dyluniwr Frank Brangwyn . Yn y cyntaf or darlithoedd bydd Dr Libby Horner yn trafod ei waith dyluniol . 

Ganed Brangwyn yn Bruges, ac fe fu’n byw ac yn gweithio yn y DU fel darlunydd, peintiwr, murluniwr, dyluniwr dodrefn, tecstilau a serameg. Hefyd, roedd Brangwyn yn wneuthurwr printiau cynhyrchiol: gweithiodd yn bennaf ar ysgythru, lithograffi ac engrafu pren. Bu’n arddangos ym Mhrydain, America ac ar draws Ewrop gyfan; cafodd ei anrhydeddu gan nifer o sefydliadau a chyrff amrywiol; cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol ac yn 1952, ef oedd yr artist byw cyntaf i arddangos ei waith fel arddangosfa un person.