Brecwast Golwg Creadigol: darganfod ein gwasanaethau  

09:30, 6 Awst

Fyddwch chi weithiau’n chwilio am wasanaethau arbenigol yn y Gymraeg?

 

Dyma wahoddiad i chi ymuno â thîm adain greadigol cwmni Golwg, i ddarganfod ein gwasanaethau hyrwyddo, hyfforddiant, ymgynghori a llawer mwy.

 

Pryd? 9.30am fore Mawrth 6 Awst

Ble? Pabell Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd

 

Cewch gyflwyniad i’r math o wasanaethau y gallwn eu cynnig, a chyfle i sgwrsio â’r tîm a thrafod anghenion eich sefydliad chi wrth symud ymlaen. 

 

Mae’n gyfle perffaith i rwydweithio dros frecwast rhad ac am ddim, cyn wynebu diwrnod prysur ar y maes!

 

Os ydych chi neu gydweithwyr yn bwriadu galw draw, rhowch wybod i Lowri trwy ebostio lowrijones@golwg.cymru os gwelwch yn dda, gan nodi unrhyw anghenion deietegol.