Caffi trwsio misol wedi ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae angen mwy o bobl handi sy’n gallu trwsio man bethau ar y grwp yma.
Y bwriad yw bod pobl yn lleihau gwastraff tir-lenwi, rhannu sgiliau, dysgu sut i drwsio trwy wylio a chyfle i gymdeithasu.
Mae croeso i unrhyw un alw i mewn i weld be’ sy’n mynd ymlaen – os oes gennych wrthrych trydanol neu frethyn angen ei drwsio neu beidio.
Cysylltwch gyda rcwtecstiliau@gmail.com am fwy o wybodaeeth