Profiad Cerddorol Chwedlonol gyda CALAN
Ymgollwch mewn byd hudolus wrth i’r pedwarawd hudolus CALAN ddod ar ein llwyfan gyda’u brand unigryw o gerddoriaeth werin rymus. Mae’r profiad cerddorol hwn yn cyfuno alawon a chaneuon gwreiddiol a ysgrifennwyd fel anrhegion pwrpasol i selogion unigol, gyda dadorchuddio alawon hynafol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â ni am noson ryfeddol yn cynnwys traciau o’u halbwm ‘Nefydd’, y bu mawr aros amdani.
Mae CALAN, sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn ymddangos gyda naratif newydd, cyfareddol. Deuir â chwedlau hynafol mytholeg Cymru yn fyw yn gelfydd, gan fynd y tu hwnt i dudalennau llên gwerin i atseinio trwy alawon hudolus y delyn, gitâr, ffidil, acordion, a chân. Mae ‘Nefydd’ yn adrodd hanesion am dywysogion mileinig, lladron pen ffordd, ac adfywiad buddugoliaethus calon llên gwerin Cymru.
Mae gallu amryddawn CALAN yn chwedlonol ynddo’i hun. O gyngherddau cartrefol i’r Royal Albert Hall mawreddog, mae Calan wedi dod yn arwyr gwerin modern eu hunain. Yn nodedig hefyd bu iddynt ymddangos ar albwm diweddaraf y seren operatig Syr Bryn Terfel, gan nodi eu dychweliad buddugoliaethus i amlygrwydd yn y byd cerddorol.