Cantata Cerdd Dant

19:30, 23 Tachwedd

£10

Perfformiad cyntaf cyfansoddiad newydd sbon gan Bethan Bryn o Gantata’r Geni, y cantata cerdd dant cyntaf erioed. Caiff ei berfformio fel rhan o gyngerdd cyhoeddi’r Wyl yn Eglwys San Mihangel, Aberystwyth am 7:30 ar nos Sadwrn Tachwedd 23.

Gan mai hwn fydd premiere byd eang o gyfansoddiad unigryw na chlywyd ei debyg erioed o’r blaen yn nunlle yn y byd, mae disgwyl i’r tocynnau hedfan felly cofiwch fachu rhai yn fuan.

Yn ogystal â’r Cantata ei hun, bydd hwn yn gyfle i weld a chlywed Linda Griffiths, Deuawd Telyn Gwasanaeth Cerdd Ceredigion a Dawnswyr Seithenyn felly mae’n argoeli i fod yn noson arbennig iawn.

Yn y cyfamser, os hoffech ymuno yn yr hwyl neu gyfrannu gwobr i gystadleuaeth neu gefnogi mewn unrhwy ffordd, cysylltwch a Rocet Arwel Jones (Cadeirydd) neu Helen Medi Williams (Ysgrifennydd).