Cynhelir Carnifal Dihewyd ar gae chwarae’r Neuadd Bentref ar ddydd Sadwrn 13eg o Orffennaf am 1.30 o’r gloch.
Y llywyddion eleni fydd Wyn a Jessica Thomas.
Bydd y carnifal yn dechrau am 1.30 o’r gloch ac yna bydd gweithgareddau hwylus i’r plant dan arweiniad Lleucu Ifans, Actifiti. Bydd raffl ar werth yn ystod y dydd. Dewch â phicnic eich hun.
Dyma restr o ddosbarthiadau cystadleuwyr…
1. Tan 2 oed.
2. 2 – 4 oed
3. Dosbarth Derbyn
4. Blwyddyn 1 a 2
5. Blwyddyn 3 a 4
6. Blwyddyn 5 a 6
7. Blwyddyn 7 a 8
8. Blwyddyn 9 a 10
9. Oedran 16 – 18
10. Oedolion
11. Pâr gorau dan 12 oed
12. Pâr gorau agored
Gwobrau – 1af £5, 2il £3, 3ydd £2
Croeso cynnes i chi gyd!