Mae wythnos y Carnifal yn dechrau ar ddydd Sul y 30ain o Fehefin, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau yn arwain at ddiwrnod y Carnifal, sydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf yn y Parc Goffa.
Bydd amrywiaeth o gemau, stondinau bwyd, stondinau crefft, gwisgo i fyny, fflotiau carnifal a llawer fwy gyda CHERDDORIAETH BYW yn Neuadd Tysul Hall am noson o adloniant.
Mehefin 30ain – “Hymns & Pimms” dechrau am 5yp yn Eglwys St Tysul
Gorffennaf 1af – Helfa Drysor Car – Gadael y Maes Parcio 5.30yh – 6.30yh
Gorffennaf 2il – Bingo – Gwesty’r Porth, dechrau am 7 yh
Gorffennaf 3ydd – Barbeciw a Gemau ym Mharc Coffa Llandysul, dechrau am 5.30yp
Gorffennaf 5ed – Cwis Tafarn – Gwesty’r Porth, Kings Arms, Half Moon, dechrau am 7.30yh
Gorffennaf 6ed – Diwrnod Carnifal – Gorymdaith yn gadael y Paddlers am 1.30yp a mynd trwy’r pentref ac i lawr i’r Parc Coffa. Fe fydd adloniant, gemau, stondinau, gwisg ffansi a llawer mwy yn y Parc.
Gorffennaf 6ed – Nos Sadwrn – Parti Carnifal yn Neuadd Tysul i ddechrau am 7yh. Fydd cerddoriaeth fyw, dawnsio, bar a bwyd.