Carolau Cymunedol

13:00, 14 Rhagfyr

Am ddim

Dewch i gydganu carolau gyda ni yn Iard Hir yr Amgueddfa gyda’r gwesteion arbennig, tenor, Ceri Davies a Chôr Gospel Cymunedol Llandysul.Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Carolau Cymunedol. Nifer cyfyngedig o seddi sydd gan Iard Hir yr Amgueddfa, felly rydym yn cynghori eich bod yn cyrraedd yn gynnar os hoffech sedd.Mae seddi hygyrch ar gael, i drafod ymhellach, cysylltwch â 02920 573094.

Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Gallwch gyfrannu drwy ymweld  Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru