Carwyn Graves yn cyflwyno’i lyfr ‘Tir’

19:30, 1 Tachwedd

Am ddim i aelodau; £5 am y noson yn unig; £10 am aelodaeth am y flwyddyn

Cymdeithas Ceredigion

Yn ein cyfarfod nesaf, nos Wener 1af o Dachwedd, am 7.30pm, daw Carwyn Graves aton ni yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes. Mae Carwyn yn awdur, yn arddwr ac yn ieithgi o Gaerfyrddin. Bydd yn siarad am ei lyfr ‘Tir’ a’n tirwedd ddiwylliannol.

Wrth sôn am y llyfr, mae’n dweud, “Yn ein cyfnod modern o bryderon hinsawdd a dadleuon pegynnu ar ddefnydd tir, diet a mwy, mae’n bwysig ein bod yn deall y byd yr ydym ynddo a’r ffyrdd y teithiom i gyrraedd yma. Drwy archwilio pob un o dirweddau allweddol ledled Cymru a chwrdd â’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ffermio ynddynt, mae ‘Tir’ yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell; un gyda thirweddau syfrdanol o hardd, bioamrywiol sydd ddeg gwaith yn gyfoethocach o ran bywyd gwyllt nag y maent ar hyn o bryd, ac sy’n dal i fod yn llawn bodau dynol yn gweithio’r tir.”

Bydd croeso cynnes i bawb. (Am ddim i aelodau; £5 am y noson yn unig; £10 am aelodaeth am y flwyddyn).