Yn yr olaf yn y cyfres o ddarlithoedd am Frank Brangwyn bydd Shan Robinson yn trafod llyfrgell yr Arlynydd Frank Brangwyn a Rhoddwyd i Brifysgol Bangor.
Ganed Brangwyn yn Bruges, ac fe fu’n byw ac yn gweithio yn y DU fel darlunydd, peintiwr, murluniwr, dyluniwr dodrefn, tecstilau a serameg. Hefyd, roedd Brangwyn yn wneuthurwr printiau cynhyrchiol: gweithiodd yn bennaf ar ysgythru, lithograffi ac engrafu pren. Bu’n arddangos ym Mhrydain, America ac ar draws Ewrop gyfan; cafodd ei anrhydeddu gan nifer o sefydliadau a chyrff amrywiol; cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol ac yn 1952, ef oedd yr artist byw cyntaf i arddangos ei waith fel arddangosfa un person.