![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/02/62100ce5-4792-7164-0d64-308x457.jpeg?0)
Ymunwch a ni am gawl a dawnsio gwerin ar noswyl Dydd Gŵyl Dewi. Bydd y noswaith yn dechrau am 7yh yn Ysgol Cribyn. Mynediad yn £3 i oedolion, rhad ac am ddim i blant, ac mi fydd gwobr i bawb sy’n gwisgo’r wisg draddodiadol. Cofiwch ddod a bowlen a llwy i lenwi eich bol cyn ymuno a Dai Penlan fydd yn galw’r twmpath.
Mi fyddwn hefyd yn trafod prosiect Ysgol Cribyn ac yn rhannu cynlluniau pensaer. Rydym yn awyddus i glywed barn y gymuned ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno a ni!
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Elliw: ysgolcribyn@gmail.com