Celf a Lles – Braslunio ym myd Natur

18:00, 18 Gorffennaf

Am ddim - darperir lluniaeth ysgafn

Ymunwch â ni am noson o Gelf er Lles yn Gerddi Ffrancon nos Iau 18fed Gorffennaf o 6-8 pm. Bydd y sesiwn anffurfiol hon yn rhoi cyfle i fynychwyr ymlacio a braslunio yn yr amgylchoedd prydferth. Bydd llyfrau braslunio ac offer ar gael, neu mae croeso i chi ddod â rhai eich hun. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys os oes angen cludiant arnoch, cysylltwch ag esme@ogwen.org