Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn elusen sy’n annog pobl ifanc i berfformio neu gyfansoddi cerddoriaeth – neu’r ddau! Maen nhw’n trefnu cystadleuaeth blynyddol Cerddor Ifanc Dyfed.
Yng nghystadleuaeth perfformwyr blynyddol Cerddor Ifanc 2024, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni oedd Raphael James, Jonah Barker, Jencyn Corp, Ianto Evans, ac Alys Lavery. Mae pedwar ohonyn nhw wedi gallu derbyn y cyfle hwn i berfformio i ni.
Mae dyfodol cerddoriaeth yn gorwedd gyda thalentau cerddorion ifanc. Dyma gyfle cyntaf i gwrdd â’r rhain yn gynnar yn eu gyrfaoedd cerddorol. Edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch yno.
Am fanylion y raglen, gwelwch y wefan lampetermusicclub.